Hiraeth Yn Y Môr - Y prosiect
Gwyliwch ein rhaglen ddogfen fer i glywed gan aelodau'r gymuned a luniodd y prosiect.
Pam mae o bwys?
Mae ymchwil wedi dangos bod amser ger yr arfordir a’r môr yn dod â manteision gwirioneddol i’n hiechyd a’n lles, a bod pobl sy’n cysylltu eu lles â’r arfordir a’r môr yn fwy tebygol o fod eisiau gofalu amdano.
Mae gofalu a chysylltu â'r cefnfor yn bwysig am lawer o resymau:
- Mae ardal prosiect HYYM o fewn Ardal Gwarchodaeth Arbennig Bae Lerpwl: mae Prestatyn, y Rhyl, Bae Cinmel a Thywyn yn rhan o AGA Bae Lerpwl, ardal sydd wedi'i dynodi ar gyfer trochyddion gyddfgoch, hwyaid duon a chasgliad adar dŵr.
- Mae angen y cefnfor arnom i oroesi: Mae'r cefnfor yn cynhyrchu tua 50% o ocsigen y Ddaear.
- Mae’r cefnfor yn cefnogi ein heconomi: Mae’r amgylchedd arfordirol a morol yn ased naturiol gwych, gan gyfrannu £6.8 biliwn i economi Cymru a chynnal mwy na 92,000 o swyddi.
16
Km
of coastline from Prestatyn to Kinmel Bay
60
%
of Wales' population of live and work near the coast
8/10
people in Wales report that visiting the sea is good for their mental and physical health
Os gallwn gefnogi pobl i fynd allan yno a phrofi eu harfordir a’u môr lleol a meithrin perthynas barhaus ag ef, rwy’n gobeithio yn ei dro y bydd hynny’n arwain at warchod yr amgylchedd morol yn well a gwell iechyd a lles unigolion hefyd.
Ffion, Arweinydd Etifeddiaeth Prosiect HYYM
Gwerthuso Prosiect
Eisiau darllen mwy am brosiect HYYM a'i effeithiau? Lawrlwythwch ein hadroddiad gwerthuso gan Dr Emma McKinley yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Noddwyr prosiect
Cefnogwyd y prosiect hwn gan y Rhaglen Rhwydweithiau Natur sy’n cael ei darparu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, ar ran Llywodraeth Cymru.
Mae'r prosiect hwn hefyd wedi bod yn bosibl diolch i'r rhoddion hael gan 71blue, Gaynor Cemlyn-Jones Trust, Ninevah Trust, and Garfield Weston Foundation.