Skip to main content

Ar Frig Y Don

Croeso i #ArFrigYDon, prosiect addysg sydd wedi’i ddylunio i hysbysu pobl am ein planed las ryfeddol a’i hysbrydoli i gymryd camau gweithredu.

    Amdan #ArFrigYDon

    Mae cynnwys ein hadnoddau wedi’i wreiddio yng Nghymru, gyda’r nod o ddatblygu ymdeimlad cryf o hunaniaeth a dealltwriaeth o faterion cefnforol lleol. Mae’r adnoddau yn edrych ar faterion byd-eang hefyd, gan gryfhau datblygiad disgyblion fel dinasyddion cyfoes Cymru a’r byd.

    Bydd pob cynllun gwers yn cynnwys dolenni cwricwlwm manwl a bydd yr adnodd ei hun yn cyflwyno’r cyfle i ysgolion ddefnyddio dull thematig integredig dros y Meysydd Dysgu a Phrofiad, gan gefnogi disgyblion i wneud cysylltiadau eglur ar draws y cwricwlwm.


    Cyflwyniad i’r cefnfor

    Yn y cyflwyniad hwn, bydd disgyblion yn dysgu i adnabod pryderon amgylcheddol a datblygu atebion rhagweithiol i faterion amgylcheddol wrth archwilio pa mor bwysig yw’r cefnfor i fywyd.

    Materion yn ymwneud â’r Cefnfor

    Yn yr adran hon, bydd disgyblion yn archwilio materion yn ymwneud â’r cefnfor, gan ganolbwyntio ar lygredd morol, newid hinsawdd a physgota cynaliadwy.

    Mae’r gwersi hyn yn archwilio’r bygythiadau sy’n dod yn sgil llygredd morol. Mae’n gwahodd disgyblion i archwilio sut mae llygredd yn cyrraedd ein dyfroedd a pha gamau gweithredu y gall pobl eu gwneud i atal llygredd dŵr.

    Mae’r gwersi hefyd yn arwain disgyblion i ddarganfod pam fod cefnfor iach mor bwysig wrth fynd i’r afael â newid hinsawdd a chefnogi bywyd morol.

    Bydd disgyblion yn datblygu eu dealltwriaeth o bwysigrwydd ymddwyn yn gynaliadwy a sut y  gallan nhw wneud newidiadau cadarnhaol fel unigolion, ysgol neu gymuned.

    A fish swimming in blue waters. The top of the image shows a layer of plastic floating on the water's surface

    Pysgodyn yn nofio mewn plastig

    Image credit: Rich Carey

    Llygredd morol

    Mae’r gwersi hyn yn archwilio’r bygythiadau sy’n dod yn sgil llygredd morol. Mae’n gwahodd disgyblion i archwilio sut mae llygredd yn cyrraedd ein dyfroedd a pha gamau gweithredu y gall pobl eu gwneud i atal llygredd dŵr.

    Newid hinsawdd

    Yn y wers hon, rydym yn gofyn sut mae newid hinsawdd yn effeithio ar y cefnfor? 

    Sut mae’r cefnfor yn helpu i leihau newid hinsawdd? Beth allwn ni ei wneud i leihau newid hinsawdd a gwarchod y cefnfor?

    Smoke pouring out of a factory

    Mwg yn dod allan o ffatri  |  Image credit: Chris LeBoutillier

    Pysgod cynaliadwy

    Mae ein cefnfor yn darparu bywoliaethau a bwyd i filiynau o bobl. 

    Er mwyn sicrhau y bydd hyn yn gallu parhau yn y dyfodol, mae angen i ni wneud yn siŵr bod ein harferion pysgota yn gynaliadwy ac yn annistrywiol.

    An aerial shot of a fish farm which has several large netted circles in open water

    Fferm bysgod  |  Image credit: Pasta Design


    Cymryd camau gweithredu yn eich ysgol

    Ar ôl darganfod ein syniadau #ArFrigYDon ym mhob cynllun gwers, mae’r adran hon yn cyflwyno canllawiau a syniadau defnyddio i helpu disgyblion i godi mwy o ymwybyddiaeth yn eu hysgolion, eu cymunedau a thrwy’r cyfryngau cymdeithasol.

    Co-funded by the European Union.


    Hefyd o ddiddordeb